Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ôl ar gyfer 2025 – cofrestrwch i dderbyn adnoddau AM DDIM nawr!
Mae BookTrust Cymru wrth ein bodd o adael i chi wybod y bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ôl rhwng Chwefror 10-14, 2025, a bydden nhw’n falch pe gallech ymuno yn yr holl hwyl.
Thema Amser Rhigwm Mawr Cymru 2025 fydd Bwrlwm y Rhigwm i Bawb a hoffem i hwn fod yn Amser Rhigwm Mawr Cymru mwyaf cyffrous a chynhwysol hyd yn hyn.
Bydd llawer o gynnwys newydd rhagorol Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys caneuon, rhigymau a fideos y gellir eu rhannu â theuluoedd a phlant ledled Cymru, a hoffem annog pawb sy’n gweithio gyda phlant 0-5 oed i gymryd rhan.
Gellir hawlio tystysgrifau a sticeri AM DDIM wrth gofrestru, gyda dewis o dystysgrif digidol os yw’n well gan leoliadau beidio â derbyn eitemau drwy’r post (neu os nad yw adnoddau wedi’u hargraffu ar gael mwyach).
Peidiwch â cholli’r cyfle!
I gofrestru ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru 2025, ewch i: https://www.booktrust.org.uk/cy-gb/bigwelshrhymetime
Cofiwch ddilyn @BookTrustCymru ar Twitter / X a Facebook i weld mwy o newyddion am Amser Rhigwm Mawr Cymru cyn bo hir!
Dilynwch ni