Ehangu Gofal Plant Dechrau’n Deg i Gyrraedd Mwy o Deuluoedd yng Nghaerffili – Ceisiadau Nawr ar Agor 

1 Medi, 2025

Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn falch iawn o gyhoeddi bod rhaglen gofal plant Dechrau’n Deg yn ehangu i gynnwys mwy o ardaloedd cod post ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r cam diweddaraf hwn waith cyflwyno cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o deuluoedd yn gallu cael mynediad at ofal plant o ansawdd uchel o fis Ionawr 2026. Mae’r ehangu hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol, gan gynyddu’r cwmpas o 50% i 80% o’r fwrdeistref — gan ddod â manteision Dechrau’n Deg i gannoedd mwy o blant a’u teuluoedd. 

O 1 Medi 2025, bydd teuluoedd mewn ardaloedd sydd wedi dod yn gymwys yn gallu gwneud cais am le gofal plant Dechrau’n Deg, gydag ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau eu lleoliad wedi’i ariannu ym mis Ionawr 2026. Mae’r ehangu hwn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Cyngor i gefnogi datblygiad cynnar plant a helpu teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau blynyddoedd cynnar hanfodol. 

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig 12.5 awr yr wythnos o ofal plant rhan-amser wedi’i ariannu yn ystod y tymor i blant 2-3 oed, wedi’i ddarparu trwy ddarparwyr lleol cymeradwy, gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd dydd a grwpiau chwarae. 

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau: 

“Rydyn ni’n falch o fod yn ehangu Gofal Plant Dechrau’n Deg i hyd yn oed mwy o ardaloedd ar draws y fwrdeistref. Mae’r blynyddoedd cynnar hyn yn hanfodol ar gyfer datblygiad plentyn, ac mae’r rhaglen hon yn rhoi’r dechrau cryf y mae plant a theuluoedd yn ei haeddu. Byddwn i’n annog pob teulu yn y codau post newydd i wirio a ydyn nhw’n gymwys a bod yn barod i wneud cais o’r 1 Medi.” 

Mae modd i deuluoedd bellach ddefnyddio ein gwiriwr codau post i weld a ydyn nhw’n byw yn un o’r codau post sydd wedi dod yn gymwys. 

Mae’r ehangu hwn yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i wneud gofal plant Dechrau’n Deg yn hygyrch i fwy o deuluoedd ledled Cymru. Mae parhad Caerffili i gyflwyno’r raglen yn sicrhau bod plant mewn ardaloedd sydd wedi dod yn gymwys yn derbyn profiadau plentyndod cynnar o ansawdd uchel, gan eu helpu i dyfu, ffynnu a pharatoi ar gyfer yr ysgol a thu hwnt. 

 

Dilynwch ni

Facebook