Stranciau ac ymddygiad anodd plant bach

Awgrymiadau ar y modd i ddelio â'r ymddygiad

Stranciau ac ymddygiad anodd plant bach

Stranciau

Ydy’ch plentyn bach yn cael stranciau? Nid chi yw’r unig un! Mae stranciau’n gyffredin rhwng 18 mis a phedair blwydd oed. Ond dydy hynny ddim yn ei gwneud hi’n haws i ymdrin ag un pan fyddwch yng nghanol archfarchnad!

Gall stranciau plant bach fod yn ddramatig. Yn aml, maen nhw’n cynnwys crio, sgrechian, bwrw, cicio neu daflu eu hunain i’r llawr. Ac weithiau, pob un ar unwaith!

Mae’n bwysig deall nad yw’ch plentyn bach yn ceisio achosi embaras i chi, eich ypsetio neu’ch cythruddo. Mae dim ond eisiau mynegi emosiwn cryf iawn, ac yn ei chael yn anodd gwneud. Bydd y plentyn yn strancio pan fydd yn grac neu’n teimlo’n rhwystredig, a does ganddo ddim ffordd arall o roi gwybod ichi amdano.

Y newyddion da yw pan fydd yr un bach yn siarad, bydd y stranciau’n digwydd yn llai aml.

Ymddygiad anodd

Gall ymddygiad eich plentyn bach hefyd fod yn anodd os yw’n dechrau cnoi, tynnu gwallt, gwthio, cipio pethau neu gicio.

Weithiau, emosiwn sydd wrth wraidd ymddygiadau mwy anodd, fel cenfigen, rhwystredigaeth, ofn neu ddicter. Weithiau, mae oherwydd nad yw anghenion y plentyn wedi’u diwallu – os yw’n teimlo’n flinedig, eisiau bwyd neu angen cwtsh. Cofiwch, mae eich plentyn bach yn cael trafferth i roi gwybod i chi sut  mae’n teimlo. Gan nad yw’n gwybod sut i wneud hynny eto, mae’n bosibl y bydd yn anelu ergyd at rywun oherwydd ei rwystredigaeth.

Dydy hyn ddim yn golygu y gallwch anwybyddu’r ymddygiad hwn, ond mae’n eich helpu i ddeall pam mae’n digwydd! Ceisiwch adnabod emosiynau’ch plentyn bach ac ymateb iddynt yn gynnar. Efallai y gallwch chi atal y stranc cyn iddo ddigwydd.

Gwthio’r ffiniau

Mae plant bach hefyd yn dechrau sylweddoli bod ganddynt lais. Ac maen nhw’n dechrau chwilio am annibyniaeth a rheolaeth.

Efallai y bydd eich plentyn yn dechrau gwthio’r ffiniau a osodwch drwy:

  • dweud ‘na!’ i bopeth
  • gwrthod gwisgo, neu fynd i’r gwely, neu gael bath
  • gwrthod bwyta rhai bwydydd penodol (gweler ein tudalen ar fwytawyr ffyslyd)
  • rhedeg i ffwrdd
  • ymbil neu boeni rhywun pan nad yw’n cael ei ffordd ei hun

Sut i ymdrin â’r ymddygiad

Ceisiwch ddeall pam mae’r ymddygiad yn digwydd

Efallai bod eich plentyn wedi blino neu eisiau bwyd, felly mae’r ateb yn un syml. Efallai ei fod yn teimlo’n rhwystredig neu’n genfigennus, o blentyn arall o bosibl. Efallai bod arno angen amser, sylw a chariad, er nad yw’n ymddwyn yn serchus iawn atoch chi.

Deall a derbyn dicter eich plentyn

Mae’n siŵr eich bod chi’n teimlo’r un peth o dro i dro, ond gallwch ei fynegi mewn ffyrdd eraill.

Dod o hyd i ffordd o dynnu ei sylw

Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn dechrau strancio, dewch o hyd i rywbeth i dynnu ei sylw yn syth. Gall fod yn rhywbeth tu allan i’r ffenestr. Er enghraifft, gallech ddweud, “Edrycha! Cath.” Ceisiwch swnio’n llawn syndod a diddordeb.

Aros i’r ymddygiad ddod i ben

Bydd colli’ch tymer neu weiddi’n ôl ddim yn dod â’r strancio i ben. Anwybyddwch y ffordd mae pobl o’ch cwmpas yn edrych arnoch a chanolbwyntio ar aros yn dawel eich meddwl.

Peidiwch â newid eich meddwl

Ni fydd rhoi i mewn i’r plentyn yn helpu yn y tymor hir. Os ydych chi wedi dweud na, peidiwch â newid eich meddwl a chytuno er mwyn dod â’r strancio i ben. Fel arall, bydd eich plentyn yn dechrau meddwl bod strancio’n ffordd o gael yr hyn mae ei eisiau.

Byddwch yn barod am ymddygiad gwael mewn siopau

Mae stranciau’n aml yn digwydd mewn siopau. Gall hyn achosi embaras, a gall teimlo embaras ei wneud yn fwy anodd ichi gadw’n dawel eich meddwl. Ceisiwch gyfyngu ar eich amser yn siopa. Ceisiwch gynnwys eich plentyn yn y siopa drwy siarad am yr hyn mae ei angen a gadael iddo eich helpu chi.

Edrychwch ar ôl eich hun

Beth bynnag a wnewch chi, fydd eich plentyn bach ddim yn ymddwyn yn berffaith bob amser. Os yw’ch plentyn bach yn camymddwyn weithiau, nid yw hynny’n golygu eich bod chi’n methu fel rhiant. Mae’n rhan o dyfu i fyny! Cofiwch, mae rhianta’n anodd, felly peidiwch ag anghofio bod yn garedig wrthych chi’ch hun!

Angen cymorth?

Mae ymddygiad anodd yn aml yn gwneud i rieni deimlo’n wael ac yn flinedig. Os ydych chi’n teimlo’n aneffeithiol ac yn ansicr ynghylch y peth gorau i’w wneud, peidiwch â phoeni, mae cymorth ar gael. Ceisiwch aros yn gadarnhaol, ac estynnwch allan os ydych chi’n teimlo eich bod angen help llaw. Gallwch siarad â’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu gysylltu â ni yn nhîm y Blynyddoedd Cynnar.

Gwefannau sy’n cynnig cymorth

 

Dilynwch ni

Facebook