Pryderon am gwsg

Awgrymiadau i helpu eich plentyn i gysgu'n well

Pryderon am gwsg yn achos plant ifanc

Mae cwsg o ansawdd da yn bwysig i bawb ond yn enwedig i blant gan ei fod yn effeithio’n uniongyrchol ar eu datblygiad meddyliol a chorfforol.

Yn ystod cyflwr dwfn cwsg, caiff y cyflenwad gwaed i gyhyrau eich plentyn ei gynyddu, caiff egni ei adfer, mae meinweoedd yn tyfu ac yn cael eu hatgyweirio, ac mae hormonau pwysig ar gyfer twf yn cael eu rhyddhau.

Mae cwsg da yn helpu i wella talu sylw, ymddygiad, dysgu a’r cof.

Pam nad yw fy mhlentyn yn cysgu?

Mae yna lawer o resymau pam y gallai plant ifanc gael anhawster i gysgu gan gynnwys:

  • Cysylltiad â chysgu (rhywbeth neu rywun y mae’ch plentyn ei angen i syrthio i gysgu e.e. angen cael ei fwydo i gysgu neu ei ddal / siglo)
  • Pryder gwahanu
  • Bod yn orflinedig
  • Ofnau amser gwely (yn ofni’r tywyllwch)
  • Hunllefau
  • Dychrynfeydd nos

I blant hŷn, gall arferion cysgu gwael, gormod o gaffein, gormod o amser sgrin, pryderon, straen a phroblemau iechyd meddwl oll gyfrannu at gwsg gwael.

Awgrymiadau i helpu’ch plentyn i gysgu’n well

Gall amser gwely droi’n frwydr pan nad yw rhai bach yn setlo a chwympo i gysgu. Ond mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu.

  • Ceisiwch ddeall a mynd i’r afael â’r broblem sylfaenol.
  • Cael trefn amser gwely – gall bath cynnes, goleuadau gwan a stori i gyd helpu i ymlacio a nodi amseroedd cysgu.
  • Cael amser gwely a deffro cyson, gan addasu hyn i anghenion cwsg eich plentyn wrth iddo fynd yn hŷn.
  • Gall dymi helpu plentyn ifanc i setlo amser gwely ac os yw’n deffro yn ystod y nos.
  • Osgoi amser sgrin yn yr awr cyn mynd i’r gwely.
  • Sicrhewch fod gan eich plentyn le heb fod yn rhy gynnes, tawel, tywyll a chyfforddus i gysgu.

Angen cymorth?

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cwsg eich plentyn, mae cymorth ar gael. Gallwch siarad â’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu, neu gysylltu â ni yn nhîm y Blynyddoedd Cynnar.

Gwefannau sy’n cynnig cymorth

 

Dilynwch ni

Facebook