Mae’r rhan fwyaf o blant yn barod i ddechrau hyfforddiant toiled rhwng 18 mis a thair blwydd oed. Fodd bynnag, mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’n bwysig aros nes bod eich plentyn yn barod.
Efallai y byddwch yn teimlo bod eich plentyn yn barod i ddechrau hyfforddiant toiled pan fyddwch yn sylwi ar y pethau canlynol:
Efallai y bydd hyfforddiant toiled yn y nos yn cymryd mwy amser na hyfforddiant toiled yn y dydd. Os yw cewyn eich plentyn yn sych neu bron iawn yn sych yn y bore, mae’n bosibl ei fod yn barod am hyfforddiant toiled yn y nos. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn defnyddio’r pot cyn mynd i’r gwely wedyn gwnewch yn siŵr ei fod wrth law os oes angen i’ch plentyn ei ddefnyddio yn ystod y nos. Defnyddiwch gynfas wrth-ddŵr a gwnewch yn siŵr bod dillad gwely a phyjamas glân wrth law. Os nad yw pethau’n mynd yn dda, daliwch i ddefnyddio cewynnau am ychydig mwy o amser a rhowch gynnig arall arni’n nes ymlaen.
Os yw’n ymddangos, ar ôl ichi ddechrau hyfforddiant toiled, nad oedd eich plentyn yn hollol barod, ewch yn ôl at ddefnyddio cewynnau/ cewynnau y gellir eu tynnu lan a lawr a rhowch gynnig arall arni ymhen ychydig wythnosau.
Os oes gennych unrhyw bryderon eraill ynghylch hyfforddiant toiled, gallwch siarad â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.
Gallwch hefyd gysylltu â ni yn nhîm y Blynyddoedd Cynnar i gael cymorth.
Mae’r gwefannau canlynol hefyd yn cynnig cyngor a chymorth:
Dilynwch ni