
Bwyd a Hwyl 2025 yn lansio yng Nghaerffili gydag ymweliad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS
Fe gafodd rhaglen gwyliau’r haf Bwyd a Hwyl 2025 ei lansio’n swyddogol heddiw yng Nghaerffili, gydag ymweliad arbennig gan Y
sgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS. Hefyd yn bresennol oedd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, a Keri Cole, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r lansiad yn nodi dechrau blwyd dyn arall o ddarpariaeth effeithiol yn ystod y gwyliau i blant a theuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae’r rhaglen Bwyd a Hwyl wedi bod yn rhedeg ers 2015 fel prosiect peilot yng Nghaerdydd, ond maeCaerffili wedi bod yn cyflwyno’r cynllun ers 2018. Un o’r ysgolion lleol cyntaf i ymuno â’r rhaglen oedd Ysgol Gynradd Pantside, a ddechreuodd gyflwyno yn 2019 trwy gynnig 40 o leoedd i blant am 12 diwrnod dros wyliau’r haf. Eleni, bydd yr ysgol yn cyflwyno’r rhaglen unwaith eto, gan gynnig o leiaf o 120 o leoedd i blant y dydd, sy’n adlewyrchu’r twf cryf a’r ymrwymiad parhaus i’r rhaglen yn yr ardal.
Wedi’i ddatblygu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen gwella gwyliau’r haf mewn ysgolion, sy’n anelu at fynd i’r afael â llwgu yn ystod y gwyliau, anweithgarwch corfforol ac ynysigrwydd cymdeithasol. Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a byrddau iechyd lleol, mae’r rhaglen yn darparu prydau maethlon, gweithgarwch corfforol a sesiynau cyfoethogi diddorol mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Mae gweithrediad Caerffili yn 2025 yn un o’r mwyaf hyd yma, gydag 13 ysgol yn cymryd rhan ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd yr ysgolion yn cynnig o leiaf 640 o leoedd y dydd ar gyfer disgyblion o oedran Meithrin hyd at Flwyddyn 8 gan gynnwys darpariaeth Cyfrwng Cymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Fel rhan o’r cymorth cymunedol ehangach, bydd teuluoedd hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn sesiynau prydau bwyd i’r teulu sy’n cael eu cynnal yn ystod y rhaglen.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, “Mae Bwyd a Hwyl yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ledled Caerffili. Mae’n wych gweld y rhaglen yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddarparu mannau diogel a chefnogol i blant aros yn egnïol, bwyta’n dda a mwynhau gwyliau’r haf.” Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Mae’n wych gweld y rhaglen Bwyd a Hwyl yn ffynnu yma yng Nghaerffili, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn o wneud gwahaniaeth mor ystyrlon i blant a theuluoedd dros wyliau’r haf. Mae twf y rhaglen yn dyst i ymroddiad yr Awdurdod Lleol a’r gweithlu addysg, a’r angen gwirioneddol y mae’n mynd i’r afael ag ef.”
Gyda dros 640 o leoliadau plant y dydd bellach ar gael, mae’r rhaglen yn parhau i gynorthwyo lles, iechyd a datblygiad plant yn ystod gwyliau’r ysgol.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y rhaglen i ysgolion yng Nghaerffili:
Cysylltwch â: Bethan Kay Kayb@caerffili.gov.uk Neu Fiona Santos Santof@caerffili.gov.uk
Dilynwch ni