Cynllun croesawu bwydo ar y fronMae’r cyngor yn chwilio am fusnesau ac adeiladau ledled Caerffili i ddod yn lleoliadau sy’n croesawu bwydo ar y fron.
Bydd y lleoliadau hyn yn helpu i hyrwyddo, diogelu a chefnogi hawl rhieni i fwydo ar y fron yn gyhoeddus.
Bydd y cyngor yn darparu pecyn croeso i fusnesau/sefydliadau, a fydd yn darparu dolen i sesiwn ymwybyddiaeth ar-lein a sticer i’w arddangos yn eu hadeiladau.
Yn ogystal â chefnogi hawl gyfreithiol rhieni i fwydo ar y fron yn gyhoeddus, mae bod yn rhan o’r cynllun yn cynnig manteision cyhoeddusrwydd am ddim, hyrwyddo lleol a chwsmeriaid newydd posibl i fusnesau.
Os yw adeilad yn arddangos y logo hwn, mae’n dangos bod y lleoliad:
Cofrestru ar gyfer y cynllun croesawu bwydo ar y fron
Mae’r map canlynol yn dangos y lleoliadau ledled Gwent sydd wedi ymuno â Chynllun Croeso i Fwydo ar y Fron.
Lleoliadau Croeso i Fwydo ar y Fron – map rhyngweithiol
Mae rhagor o gyngor ar fwydo ar y fron ar gael ar wefan Rhwydwaith Bwydo ar y Fron.
Cefnogir y cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Dilynwch ni