Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd

Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd

Mae gan bob plentyn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili Ymwelydd Iechyd penodol. Nyrsys hyfforddedig yw Ymwelwyr Iechyd sy’n gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar i gynorthwyo plant o’r cyfnod trosglwyddo o’ch bydwraig i flynyddoedd cyntaf yr ysgol (0-7 oed).

Cynigir amrywiaeth o raglenni cymorth i bob plentyn a theulu, a elwir yn rhaglen Plant Iach Cymru. Mae llawer o wybodaeth am hyn, gan gynnwys beth i’w ddisgwyl gan eich tîm ymweliadau iechyd, i’w chael ar wefan Ymwelwyr Iechyd: Iachach Gyda’n Gilydd (cymru.nhs.uk).

Mae nyrsys ysgol hefyd wedi’u cynnwys yn y rhaglen, ac yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc oed ysgol wrth weithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd eraill i helpu plant a phobl ifanc o 4 oed i aros yn iach a chael mynediad i addysg.

Os oes angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd ffoniwch eu llinell ffôn ganolog newydd 01633 431 685 i gael eich rhoi mewn cysylltiad â’u timau ledled Gwent.

Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd Uwch Dechrau’n Deg

Mae Gwasanaeth Iechyd Dechrau’n Deg yn eich cynorthwyo chi gyda magu plant ac i roi unrhyw help a chyngor y gallech fod eu hangen, o’r cyfnod cyn-geni hyd at 3 blynedd ac 11 mis.

Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, bydd eich Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg yn gallu cynnig cymorth a chefnogaeth ar amrywiaeth o bynciau megis:

  • Cymorth beichiogrwydd, eich cadw’n iach trwy gydol eich beichiogrwydd, cyngor ar offer y gallai fod ei angen arnoch chi, a chymorth yn eich diwrnodau cyntaf fel rhiant newydd.
  • Mae’r Cynllun Cychwyn Iach yn darparu talebau Cychwyn Iach i rieni cymwys i helpu i dalu am ffrwythau, llysiau a fitaminau ffres.
  • Cyngor a chymorth bwydo ar y fron
  • Cyngor ar ddiddyfnu, maint dognau, bwydydd diddyfnu cyntaf, bwydydd i’r teulu a sut i ddatblygu maeth eich plentyn.
  • Gwiriadau diogelwch yn y cartref a chyngor i wneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel ac yn addas i blant.
  • Mae Clybiau Babanod yn cynnig cymorth i rieni newydd sydd â babanod 0-6 mis oed. Mae’r rhain yn cynnwys tylino babanod, bwydo’ch babi, cwsg diogel, gofal deintyddol, a gweithgareddau eraill sydd wedi’u cynllunio i annog a chefnogi datblygiad eich babi.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer cymorth Dechrau’n Deg

 
Defnyddiwch lythrennau mawr, e.e CF11 1AA
 

Dilynwch ni

Facebook