Ydych chi’n angerddol am weithio gyda phlant a’u teuluoedd a chael effaith gadarnhaol ar eu bywydau nhw? Ydych chi’n chwilio am yrfa werth chweil gyda digon o gyfleoedd i dyfu a datblygu’n bersonol?
Os felly, mae gennym ni swyddi gwag cyffrous ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant a allai gynnig yn union beth rydych chi’n chwilio amdano.
Ymunwch â’n tîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i blant ifanc a’u teuluoedd yn ystod eu blynyddoedd cynnar hollbwysig. Beth bynnag yw eich rôl, byddwch chi’n chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol y plantos hyn, gan feithrin eu datblygiad, a sicrhau eu lles nhw.
I gael help i wneud cais am unrhyw un o’n swyddi gwag, cysylltwch â Thîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili.
Rôl | Cyflog | Pecyn | Dyddiad Cau | Gwneud cais |
£37,938 (SCP28) – £40,476 (SCP31) | Llawn amser Cyfnod Penodol am 12 mis |
24/04/2025 | Gwnewch gais nawr |
Dilynwch ni