Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd. Gallwn ni eich cynorthwyo chi a’ch teulu yn ystod y blynyddoedd cynnar. Rhagor o wybodaeth am daith eich teulu drwy’r Blynyddoedd Cynnar.
Er mwyn i ni allu eich cynorthwyo chi a’ch teulu, mae angen i ni gadw gwybodaeth benodol amdanoch chi.
Er mwyn cynorthwyo taith eich teulu drwy’r Blynyddoedd Cynnar, mae gennym ni Brotocol Rhannu Gwybodaeth ar waith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hwn yn gytundeb ffurfiol a chyfreithiol sy’n nodi’r telerau, amodau, a’r sail gyfreithlon ar gyfer rhannu data personol rhwng ein sefydliadau. Mae’n sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n ddiogel, yn briodol, ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
Mae’n esbonio sut mae sefydliadau yng Ngwent yn rhannu gwybodaeth bersonol i gynorthwyo plant o’r adeg cyn geni hyd at 7 oed.
Mae’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, awdurdodau lleol, lleoliadau gofal plant a sefydliadau partner.
Dim ond yr wybodaeth bersonol angenrheidiol leiaf sy’n cael ei rhannu â ni. Gall hyn gynnwys manylion amdanoch chi a’ch teulu, cyfeiriad, anghenion iechyd ac addysg, ac ymyrraeth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Ar ddechrau eich taith drwy’r blynyddoedd cynnar, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn rhannu gwybodaeth â ni yn ystod beichiogrwydd a phan fydd eich plentyn yn cael ei eni.
Rydyn ni’n trin eich preifatrwydd o ddifrif. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut y byddwn ni’n casglu, defnyddio a diogelu eich data personol yn ystod eich taith drwy’r blynyddoedd cynnar.
Darllen ein Hysbysiad Preifatrwydd
Dilynwch ni